Cael darlun clir o sefyllfa ariannol eich elusen yw’r cam cyntaf wrth reoli ei chyllid yn dda. Mae’n faes y gall ymddiriedolwyr deimlo’n llai hyderus amdano ond mae’n rhan hanfodol o’ch rôl.
Isod mae rhai adnoddau ar bynciau ariannol i helpu eich elusen i gynllunio a rheoli ei chyllid. Rydym wedi cynnwys offer a chanllawiau i roi cefnogaeth ymarferol i chi.
Adeiladu Gwydnwch Ariannol
Eisiau rhoi hwb i iechyd ariannol eich elusen? Bydd yr offeryn hwn yn eich paru â’r canllawiau sydd eu hangen ar eich elusen.


Canllaw 5 munud ar gyllid
Gall ein canllaw 5 munud ar reoli cyllid eich helpu i ddeall eich cyfrifoldebau dros sicrhau bod arian eich elusen yn ddiogel ac yn cael ei ddefnyddio a’i gyfrif yn briodol.

Rheolaethau ariannol mewnol ar gyfer elusennau
Yn egluro’r gwahanol fathau o reolaethau ariannol mewnol y dylai eich elusen eu cael i’ch helpu i amddiffyn eich elusen rhag twyll a cholled.

Polisi wrth gefn
Dysgwch beth yw cronfeydd wrth gefn elusennol a sut i ddatblygu ac adrodd ar bolisi cronfeydd wrth gefn eich elusen.

Gwella cyllid elusennau
Cyngor ar sut y gallwch wella cyllid eich elusen ac amddiffyn rhag anawsterau ariannol, gan gynnwys beth i’w wneud os na all eich elusen dalu ei biliau.

15 cwestiwn y dylai ymddiriedolwyr eu gofyn
Eisiau gwirio effeithiolrwydd ariannol eich elusen? Defnyddiwch ein canllaw 15 cwestiwn.
Archwiliwch fwy ar ffurflenni blynyddol a rheoli buddsoddiadau:
Paratoi cyfrifon blynyddol elusen
Adrodd a chyfrifyddu elusennau: yr hanfodion
Buddsoddi arian elusen: canllawiau i ymddiriedolwyr (CC14)
Canllawiau 5-munud
Beth am ailfywiogi eich gwybodaeth am ddyletswyddau allweddol ymddiriedolwyr.
